Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn yr Afon Taf ger gorsaf rheilffordd Radyr heddiw.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw toc wedi hanner dydd brynhawn dydd Llun.
Meddai: “Mae teulu’r dyn wedi cael eu hysbysu o’r farwolaeth, ond nid yw’r farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.”
Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru nad oedd eu gwasanaethau wedi cael eu hamharu gan y digwyddiad.
Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu o’r farwolaeth.