Mae corff dyn wedi ei ddarganfod ar greigiau serth ger traeth poblogaidd ym Mhorthmadog.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw toc wedi 10.45yh nos Sul, Gorffennaf 28, ar ôl adroddiadau fod corff dyn wedi cael ei ddarganfod ar y Graig Ddu, sydd rhwng Criccieth a Phorthmadog.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn ynghyd â’r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i’r digwyddiad ac i helpu’r heddlu i symud y corff a oedd 15 metr i fyny ochr serth ger Treflys, Morfa Bychan.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd: “Nid ydym yn credu fod marwolaeth y dyn yn amheus ac mae ymchwiliadau yn parhau i ddarganfod yn union beth ddigwyddodd.”