Ysgol Uwchradd Cwmcarn
Credir bod gweithiwr fu farw wrth symud asbestos mewn ysgol uwchradd wedi cael ei drydanu, clywodd gwrandawiad yng Nghasnewydd heddiw.
Roedd James Paul, 26, o Abertyleri, ym Mlaenau Gwent wedi bod yn gweithio yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn yng Nghaerffili pan fu farw ar 19 Gorffennaf.
Mae gweithwyr wedi bod yn symud asbestos o’r ysgol yn dilyn pryderon am ddiogelwch disgyblion a staff.
Mae crwner Gwent wedi gohirio’r ymchwiliad i farwolaeth James Paul tan 3 Hydref.
Clywodd y gwrandawiad yng Nghasnewydd bod parafeddygon wedi eu galw i’r ysgol tua 3.15yh ond bod James Paul wedi marw ar y safle.
Roedd wedi cael trawiad ar y galon tra’n gweithio mewn nenfwd.
Mae ymchwiliad gan Heddlu Gwent a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau.
Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau ym mis Hydref y llynedd ar ôl i adroddiad gyhoeddi bod asbestos wedi ei ddarganfod yn yr ysgol ac y gallai beri risg i iechyd.
Ond roedd adroddiad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ddiweddarach wedi dod i’r casgliad bod asbestos yn bresennol ond nad oedd yn peri risg.
Cafodd y disgyblion eu symud i gampws Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy 12 milltir i ffwrdd tra bod yr ysgol wedi’i chau.
Mae Cyngor Caerffili wedi talu £1m tuag at y gwaith o symud yr asbestos ac mae disgwyl i’r ysgol ail-agor ym mis Medi.