Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i gerddwr gael ei anafu’n ddifrifol pan gafodd ei daro gan feic modur.

Credir bod y dyn 77 oed yn croesi Rhodfa Gogledd Llanelwy ym Mae Cinmel ar y pryd.  Wrth iddo gerdded allan i’r ffordd cafodd ei daro gan feic modur.

Cafodd y dyn anafiadau difrifol i’w ben yn y digwyddiad ddydd Sadwrn.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad am 6.49yh nos Sadwrn, 27 Gorffennaf ffonio  Uned Plismona’r Ffyrdd yn Llanelwy ar 101.