Pen-y-bont Inn, Abergele
Mae dyn 54 mlwydd oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn dilyn digwyddiad y tu allan i dafarn yn Abergele nos Iau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dyn a dynes leol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod, yn dilyn y digwyddiad y tu allan i’r Pen-y-bont Inn.

Mae’r heddlu nawr yn gofyn i unrhyw un a welodd, neu sy’n gwybod unrhyw beth am yr hyn ddigwyddodd tua 10.30yh nos Iau, Gorffennaf 25, i gysylltu â nhw.