Mae sefydliad sy’n ymgyrchu’n erbyn cowbois yn y byd adeiladu, wedi cyfarfod â Gweinidog Tai, Llywodraeth Cymru.

Mae Sefydliad yr Adeiladwyr (FMB) yn trio rhwystro’r gweithwyr hynny sy’n cymryd mantais ar eu cwsmeriaid, a’r rhai sy’n cynnal ‘economi ddu’ trwy wneud gwaith am arian parod.

Meddai Richard Jenkins, Cyfarwyddwr FMB Cymru:

“R’yn ni eisoes wedi cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Trawsbleidiol ar Adeiladu, ac mae’r Gweinidog Economi wedi cytuno fod angen rhoi mwy o sylw i’r mater hwn.

“Ar hyn o bryd, Cymru a’r Deyrnas Unedig yw’r unig lefydd yn y Gorllewin sydd ddim â system o oruchwylio adeiladwyr sy’n gweithio yn nhai pobol.

“Mae’r Gweinidog Tai wedi bod yn gefnogol iawn, ac r’yn ni’n cefnogi ei gyhoeddiad diweddar ynglyn â gosod larymau dwr mewn tai newydd, a chynllun Cymorth i Brynu Cymru.

“R’yn ni nawr yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn ein cefnogi ni yn yr ymgyrch hon i roi diwedd ar y modd y mae adeiladwyr sy’n gweithio ar dai yn gallu gweithio heb neb yn eu goruchwylio nac yn asesu safon eu gwaith.”

Gwerth am arian

Mae Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru, yn dweud ei bod hi’n bwysig gwarchod y cwsmer a gwneud yn siwr ei fod yn cael gwerth am arian:

“Mae gen i gonsyrn ynglyn â rhai agweddau ar y diwydiant adeiladu, a dw i’n poeni ynglyn â safon y gwaith,” meddai.

“Felly mae’n bwysig fod y llywodraeth a’r diwydiant yn cydweithio er mwyn cymryd camau effeithiol.”