Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth er mwyn adnabod seiclwr fu farw ar ffordd A472 yn Nhrecelyn neithiwr.
Roedd y seiclwr mewn gwrthdrawiad â bws mini am 8.05pm neithiwr, wrth i’r ddau deithio i gyfeiriad y Coed Duon.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, lle fu farw o ganlyniad i’w anafiadau.
Roedd y seiclwr yn gyrru beic Raleigh Pioneer Venture llwyd, ac roedd e’n gwisgo siorts llwyd, esgidiau rhedeg Nike gwyn a chrys coch Paratech.
Cafodd gyrrwr 43 oed y bws mini ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, ac mae e’n cael ei holi yn y ddalfa.
Mae Heddlu Gwent yn awyddus i glywed ar 101 gan unrhyw un sydd â gwybodaeth.