Mae’r Swyddfa Dramor wedi cyhoeddi enwau’r ddau Brydeiniwr fu farw mewn damwain hofrennydd yn Rwsia.

Credir bod Mark Robertson a Rupert Beaumont, oedd yn eu 60au, wedi bod ar daith bysgota pan ddigwyddodd y ddamwain yn ardal Murmansk yng ngogledd Rwsia. Roedd y ddau yn dod o Hampshire.

Roedd yr hofrennydd wedi mynd i drafferthion wrth geisio esgyn, gan ladd y ddau Brydeiniwr ac un person arall.

Mae’n debyg bod y person arall, Alexander Tushnikov, yn arbenigwr ar deithiau pysgota yn yr Arctig.