Dafydd Kidner
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan gar yn ystod oriau mân fore Sadwrn ym Meisgyn.

Roedd Dafydd Kidner, 24 oed, yn dod o bentref Gilfach Goch ac yn gweithio ar reilffyrdd De Cymru a Gorllewin Lloegr yn gofalu am y cledrau. Roedd ganddo fab tair oed.

Mewn datganiad, dywedodd rhieni Dafydd Kidner, Alan a Keryl Kidner: “Roedd Dafydd yn ddyn ifanc gweithgar, sydd wedi ein gadael yn llawer rhy fuan. Byddwn bob tro yn falch iawn o Dafydd.”

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â marwolaeth Dafydd Kidner a ddigwyddodd toc wedi 1.30 y bore, ddydd Sadwrn, Gorffennaf 20 ar y A4119 ychydig i’r gogledd o Feisgyn ger cyffordd â Ffordd yr Ysgol.

Mae dynes a oedd yn gyrru car Ford Focus a fu ynghlwm â’r ddamwain wedi bod yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Daclo’r Tacle yn ddienw ar 0800555111.