Mae cadeirydd newydd y Sioe Frenhinol, John Davies wedi gofyn am ragor o eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch taliadau CAP i ffermwyr.
Mae’r Polisi Amaeth Cyffredin yn cynnig arian i wella ansawdd bywydau ffermwyr, creu cyflenwad bwyd diogel am brisiau teg a sicrhau datblygiad ardaloedd gwledig trwy Ewrop.
Mae disgwyl i incwm ffermwyr gael ei dorri 10% erbyn 2015, ond does dim sicrwydd faint o arian fydd ffermwyr Cymru’n ei dderbyn.
Dywedodd John Davies wrth BBC Cymru: “Mae angen yn gyntaf edrych fel ry’n ni’n datblygu ymhellach a chefnogi’r diwydiant amaeth.
“Mae angen i ni fod yn fwy effeithiol â’n llais.
“Mae yna leisiau yng Nghymru o ran y diwydiant amaeth.
“Mae gyda ni ddwy undeb. Mae gyda ni randdeiliaid eraill o ran y diwydiant amaeth, ond mae’r gymdeithas yma gyda chryn dipyn o bwysau a dylanwad gan feddwl am y nifer sy’n aelodau ar draws y byd yn enw’r gymdeithas hynafol hon.”
Ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies fod yn rhaid cyflwyno system deg ar gyfer ffermwyr yng Nghymru yn wyneb toriadau pellach yn y dyfodol.
Fe fydd ymgynghoriad yn dechrau’r wythnos hon i fynd i’r afael â’r mater, gan osod amserlen ar gyfer trosglwyddo i system daliadau newydd.
‘Dadlau achos ffermwyr Cymru’
Mewn datganiad yn dilyn cyfarfod yn Ewrop bythefnos yn ôl, dywedodd Alun Davies: “Rwy wedi canolbwyntio’n arbennig ar gynrychioli Cymru, ynghyd â’n cymunedau ffermio a’n cymunedau gwledig gydol y trafodaethau hyn.
“Rwy’ wedi dadlau achos ffermwyr Cymru ac wedi sicrhau bod diwydiant amaethyddol, amgylchedd naturiol ac economi Cymru wedi’u hystyried yn ddigonol.
“Rydym eisoes yn gwybod y bydd cyllideb y PAC ar gyfer 2014-20 €55 biliwn yn llai ar draws 28 Aelod-Wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd.
“Yn anochel bydd y toriadau hyn, sy’n deillio’n uniongyrchol o ddull gweithredu Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb yr UE, yn effeithio ar Gymru a’n cymunedau gwledig.
“Rwy’n anhapus iawn â’r sefyllfa bresennol ond mae’n amlwg y bydd cyllideb gyffredinol y PAC yn parhau i grebachu yn y dyfodol.
“Golyga hyn fod yn rhaid i ni gydweithio â busnesau ffermio er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa mor gadarn â phosibl erbyn yr adeg y bydd cyllid cyhoeddus hyd yn oed yn llai yn fwy na thebyg.”
Ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â:
- System taliadau sy’n seiliedig ar gategorïau o dir
- Yr amserlen a’r broses ar gyfer trosglwyddo i daliadau sy’n gwbl seiliedig ar arwynebedd
- Y defnydd o ddarpariaethau capio
- Cynigion ynghylch taliadau gwyrdd
- Cysylltu taliadau a throsglwyddo cyllidebau rhwng Colofn 1 a Cholofn 2.