Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a gynlluniwyd gan Luned Henry
Cyfrol Heini Gruffudd, Yr Erlid, gipiodd wobr Llyfr y Flwyddyn mewn seremoni yng Nghaerdydd heno.
Roedd y gyfrol, sy’n adrodd hanes Kate Bosse-Griffiths a lwyddodd i ffoi o’r Almaen i Brydain ym 1927, eisoes wedi cipio gwobr am y llyfr ‘Ffeithiol Greadigol’ orau yn llygaid y beirniaid ynghynt yn y noson.
Nofel Manon Steffan Ros, Blasu, gipiodd y wobr am y gyfrol ffuglen orau tra bod casgliad o farddoniaeth Aneirin Karadog, O Annwn i Geltia yn cipio’r teitl ‘Barddoniaeth’.
Roedd gwobr hefyd i enillydd y bleidlais gyhoeddus ‘Barn y Bobl’ a gafodd ei redeg ar Golwg360 – cyfrol Trydar mewn Trawiadau, Llion Jones oedd dewis defnyddwyr Golwg360 sydd wedi bod yn pledleisio dros yr wythnosau diwethaf.