Tlws Barn y Bobl 2013
Heno, bydd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.
Bob blwyddyn mae tlws a gwobr ariannol yn cael ei roi i’r llyfr gorau sydd wedi cael ei gyhoeddi yng Nghymru neu gan awdur Cymraeg yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Y Panel Beirniadu Cymraeg eleni yw’r awdur, Alun Gibbard, y darlledydd Bethan Elfyn a’r cyfieithydd Elin ap Hywel.
Roedd y panel Saesneg eleni yn cynnwys yr awdur a’r ymgynghorydd busnes, Ffion Hague, bardd ac Athro yn adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, Richard Marggraf Turley a’r awdur nofelau ffantasi poblogaidd, Jasper Fforde.
Mae’r tlws eleni yn ddarn o gelf wedi’i greu gan Luned Henry, sydd ar fin graddio o Adran Gelf Prifysgol y Drindod Dewi Sant.
Steffan Rhodri a Ffion Dafis sy’n cyflwyno’r noson ac am y tro cyntaf erioed bydd cerddoriaeth fyw yn rhan o’r seremoni gydag Y Niwl yn canu.
Unwaith eto eleni, roedd y cyhoedd yn cael eu gwahodd i bleidleisio am wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2013.
Roedd y bleidlais wedi cael ei chynnal ar wasanaeth Golwg360 a bydd gwobr arbennig i’r enillydd.