Nick Servini
Mae BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi mai Nick Servini fydd y Golygydd Gwleidyddol newydd.

Mae’n olynu Betsan Powys, a ddechreuodd yn ddiweddar yn ei rôl yn Olygydd Rhaglenni Radio Cymru.

Bydd Nick Servini, a gafodd ei eni yn Aberdar ac sydd ar hyn o bryd yn Ohebydd Busnes BBC Cymru Wales, yn dechrau yn y rôl fis nesaf.

Fe fu’n ohebydd i Good Morning Wales ar Radio Wales ac yn gweithio ar brif fwletinau BBC Radio 4 a BBC Radio Five Live yn Llundain a, chyn hynny, yn gweithio ar bapurau newydd yng Nghymru a Lloegr.

Sylwadau

Dywedodd Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, Mark O’Callaghan: “Mae penodiad Nick yn newyddion gwych i’n cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n Ohebydd Busnes ardderchog a bydd yn awr yn troi ei arbenigedd newyddiadurol a’i brofiad sylweddol mewn darlledu at wleidyddiaeth.”

Dywedodd Nick Servini: “Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi i swydd mor hanfodol bwysig. Bydd fy ffocws ar ddehongli ac egluro i’n cynulleidfaoedd sut mae bywyd gwleidyddol yng Nghymru yn effeithio ar eu bywydau mewn ffordd real iawn o ddydd i ddydd.”