Bydd cyfrol o waith un o ffotograffwyr mwyaf poblogaidd Eryri yn cael ei gyhoeddi’r haf hwn.

Er nad yw Pierino Algieri wedi cael gwers ffotograffiaeth yn ei fywyd, mae ei dirluniau o’i filltir sgwâr wedi gafael yn nychymyg pobl a dechreuodd dynnu lluniau o ddifrif yn 1995. Mae’r gyfrol, ‘Eidalwr yn Eryri’, yn gasgliad o’i hoff luniau dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae’r gyfrol wedi ei rhannu i benodau ar wahanol themâu – o chwareli i fynyddoedd ac o lynnoedd ac afonydd i’r arfordir – ond nid ei dirluniau yn unig sydd yn y gyfrol gan fod y bennod gyntaf yn edrych ar ei hunaniaeth a hanes ei deulu.

Tras Eidalaidd

Cafodd Pierino Algieri ei eni yn Nhrefriw yn Nyffryn Conwy yn 1955 ond daeth ei dad, Vincenzo Algieri, i Gymru fel carcharor rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd lle’r oedd yn cael ei ddal mewn gwersyll yn Llanrwst.

“Mae’r  bennod gyntaf am fy nhad yn dod yma fel carcharor rhyfel,” meddai Pierino Algieri wrth Golwg360. “Sut y daeth o i Gymru ac aros yma a setlo yma, fel wnaethon nhw.”

“Mae ‘na luniau du a gwyn ohono fo yn y gwersyll yn Llanrwst ond mae lluniau nes i dynnu hefyd o fro ei febyd a’i gartref yn Calabria pan es i yno ar wyliau gyda fy ngwraig.

“Mae un llun o’r Casa Salami – adeilad lle roedden nhw’n arfer gwneud salami –  lle’r oedd o’n gweithio yn hogyn ifanc i helpu’r teulu. Mae’r adeilad dal yno, ar ben ei hun yng nghanol cae.”

Mae Pierino wedi bod yn tynnu lluniau gyda’i gamera ers oedd  tua 20 mlwydd oed ac er nad oedd wastad yn tynnu lluniau i’r un safon, datblygodd ei grefft dros amser.

“Mae pawb yn gallu tynnu llun,” meddai. “Ond mae tynnu llun da yn rhywbeth arall. Mae o’n fater o drio pethau gwahanol ac ymarfer.”

Golygfeydd anhygoel

Ac er ei fod yn cael ei adnabod fel ffotograffydd tirlun o safon, ac wedi ennill sawl cystadleuaeth, mae Pierino o’r farn ei fod yn lwcus iawn o’r golygfeydd sydd ar ei stepen drws.

“Mae ‘na rhai llefydd yn tynnu fi nol dro ar ôl tro – fel Eryri neu Gwm Idwal  –  ac mae pob dydd yn wahanol yn Eryri gyda’r tywydd newidiol a’r tymhorau.

“Ond dwi heb fynd llawer pellach chwaith – does dim rhaid mynd yn bell iawn i gael y lluniau ‘ma. Mae rhai ffotograffwyr yn teithio oriau i ddod yma a dwi’n meddwl mod i’n  ffodus iawn i gael y tirlun yma yn fy ngardd gefn.”

Ond oes gan Pierino Algieri  hoff lun o’r miloedd mae wedi eu tynnu dros y blynyddoedd?

“Rhyw unwaith neu ddwy pob blwyddyn dwi’n tynnu llun ac yn meddwl mai hwnnw yw’r gorau dwi ‘di tynnu,” meddai.

“Ond mae lot o lwc i gael y llun perffaith weithiau – fe allwch eistedd ar fynydd am oriau yn disgwyl ond lwc yw bod yn y lle iawn ar yr  amser iawn.

“ Y peth pwysig ydi cael camera hefo chi  i dynnu llun pan da chi’n gweld un. Mae gen i un camera arna’i trwy’r amser.”

Mae ‘Eidalwr yn Eryri’ yn cael ei gyhoeddi gan wasg Carreg Gwalch.