Bydd rhai o bapurau newydd mwyaf blaenllaw Cymru yn cyhoeddi ar dabledi fel yr iPad heddiw am y tro cyntaf wrth ymateb i alw gan ddarllenwyr am fwy o newyddion ar-lein.
Bydd rhifynnau o’r Western Mail, Daily Post, Wales on Sunday a’r South Wales Echo ar gael i’w lawrlwytho am dâl misol o heddiw ymlaen.
Mae ffigyrau’n dangos fod cylchrediad rhai o bapurau newydd cwmni Trinity Mirror wedi gostwng, tra bod rhifynnau sydd i’w cael ar-lein yn cynyddu.
Yn ôl cwmni ABC sy’n cofnodi gwerthiant papurau newydd, roedd cylchrediad y Western Mail wedi gostwng 4% ym mis Mehefin o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Ond roedd gwefan WalesOnline wedi cofnodi 1.4 miliwn o ymwelwyr bob mis yn ystod ail hanner 2012, cynnydd o 30% ar y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd golygydd y Western Mail, Alan Edmunds fod y rhifynnau newydd yma yn ddatblygiad pwysig i ddarllenwyr a hysbysebwyr.
Bydd rhifynnau ar lein o’r Western Mail, Daily Post a’r South Wales Echo yn costio £7.99 y mis gyda Wales on Sunday yn costio £3.99 y mis.
Mae papurau newydd eraill gan gynnwys y Times wedi dechrau codi ffi am rifynnau ar-lein o’r papurau gyda’r Daily Telegraph a’r Sun yn bwriadu dilyn yr un trywydd.