Mae Tata, cwmni dur mwyaf Prydain sydd â safle ym Mhort Talbot wedi cyhoeddi colledion enfawr o £1.2 biliwn am y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Mae’r cwmni, oedd yn arfer cael ei adnabod fel Corus hyd 2007, wedi dioddef yn sgil gostyngiad ym mhrisiau dur a chystadleuaeth o ganlyniad i fewnforio nwyddau rhad.

Mae’r cwmni, sydd â’i brif safle ym Mhort Talbot, yn cyflogi oddeutu 32,000 o weithwyr gyda 19,000 ohonyn nhw ym Mhrydain. Mae Tata hefyd yn berchen ar gwmni Jaguar Land Rover a Tetley.

Dywedodd y cwmni: “Er mwyn parhau  i gystadlu’n llwyddiannus yn y tymor hir, mae’r cwmni yn ymgymryd â nifer o fesurau gan gynnwys adolygiad o’i asedau.”