Mae Undeb Rygbi Cymru a’r BBC wedi cyhoeddi cytundeb newydd fydd yn sicrhau y bydd gemau rhyngwladol yr Hydref yn cael eu darlledu yn fyw ar sianeli deledu’r BBC tan 2018.

Fe fydd y  cytundeb pedair blynedd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i sefydlogrwydd ariannol yr Undeb dros y tymhorau nesaf.

Mae’n golygu y bydd holl gemau rygbi rhyngwladol Cymru yn ystod mis Tachwedd yn cael eu darlledu ar un o sianeli’r BBC.

Fe fydd y gemau hefyd yn cael eu dangos ar wasanaethau eraill y BBC a gall yr Undeb hefyd ddefnyddio’r lluniau ar ei blatfformau ei hun.

“Wrth i staff hyfforddi a chwaraewyr Cymru fu gyda Llewod Prydain ac Iwerddon ddychwelyd i wynebu gemau prawf yn erbyn De Affrica, Yr Ariannin, Tonga ac Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm yn yr hydref, mae’r cyhoeddiad heddiw yn arbennig o arwyddocaol i ddyfodol rygbi Cymru,” meddai prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.

“Bydd y cytundeb newydd gyda Rhwydwaith y BBC yn sicrhau y bydd sylw i gyfres ryngwladol bwysig yr Hydref ar draws y DU gan warantu cynulleidfa deledu arwyddocaol, fydd yn cael effaith bositif yn ei dro ar ein rhanddeiliaid i gyd.”

Sylwebaeth radio

Mae’r cytundeb gyda’r BBC hefyd yn cynnwys gemau Prawf unigol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw gemau fydd yn cael eu hamserlennu yn y cyfnod paratoadol cyn Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015.

Mae’r Undeb hefyd wedi nodi’r bwriad mai ar brynhawn Sadwrn fydd yr amser arferol ar gyfer Gemau Rhyngwladol yr Hydref o 2014 ymlaen.

“Fel rhan o’n trafodaethau, rydym wedi sicrhau y bydd sylwebaeth radio yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gael i’w defnyddio gan y BBC, ac mae cyfle hefyd i S4C ddangos gemau rhyngwladol ar yr un pryd â darllediadau Rhwydwaith y BBC,” ychwanegodd Roger Lewis.

‘Cyfnod aur’

Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Mae llawer yn dweud bod hwn yn gyfnod aur i rygbi rhyngwladol yng Nghymru – ac rwy’n gwybod y bydd miliynau o ddilynwyr chwaraeon ar draws y DU wrth eu boddau y bydd gemau rhyngwladol Cymru yn yr Hydref ar gael yn fyw ac yn ddi-dor ar y BBC tan ddiwedd 2018.

“Mae BBC Cymru Wales wedi bod wrth galon darlledu rygbi Cymru ers blynyddoedd – gartref ac yn rhyngwladol – ac rwyf wrth fy modd y bydd y cytundeb hwn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu profi drama a chyffro’r gornestau cyffrous yn erbyn timau gorau hemisffer y de.”