Jimmy Cook ar gytundeb tymor byr
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo Jimmy Cook fel hyfforddwr batio ar gytundeb tymor byr.
Fe fydd e’n gweithio gyda’r tîm cyntaf, ond yn canolbwyntio ar yr ail dîm, yr Academi a’r grwpiau oedran.
Sgoriodd Cook 60 o ganrediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa, a fe yw’r trydydd prif sgoriwr yn hanes criced dosbarth cyntaf yn Ne Affrica.
Sgoriodd 7,500 o rediadau i Wlad yr Haf, gan gynnwys 28 o ganrediadau.
Cafodd ei gyfanswm uchaf o rediadau – 313 heb fod allan – yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd yn 1990.
Dywedodd ymgynghorydd Morgannwg, Brian Rose: “Rwy wrth fy modd fod Morgannwg wedi dod â Jimmy draw.
“Fe fydd ei brofiad fel chwaraewr a hyfforddwr heb amheuaeth o fudd sylweddol i griced Morgannwg a Chymru.”
Ychwanegodd Pennaeth Perfformiad Elit Morgannwg, Matthew Mott: “Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Jimmy – mae ei record fel chwaraewr yn adrodd cyfrolau ac fe fydd ei ymrwymiad gyda’r chwaraewyr yn adnodd amhrisiadwy i’n grwp o fatwyr.”
Dywedodd Jimmy Cook ei fod yn edrych ymlaen at gael helpu batwyr ifanc Morgannwg i ddatblygu.