Mae cyfnod diguro Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 ar ben, yn dilyn colled o saith wiced yn erbyn Swydd Northampton ddoe.

Sgoriodd Morgannwg 153-7 yn eu batiad nhw, wrth i Murray Goodwin daro 47 oddi ar 31 o belenni.

Cipiodd Mohammed Azharullah bedair wiced am 14 i Swydd Northampton, ei ffigurau gorau erioed yn y gystadleuaeth.

Cipiodd Swydd Northampton y fuddugoliaeth oddi ar belen olaf y gêm yn dilyn partneriaeth o 92 rhwng Cameron White a’r capten, Alex Wakely.

Yn y cyfamser, mae Morgannwg wedi gofyn am ganiatâd i’r chwaraewr tramor, Nathan McCullum gael chwarae yn y Bencampwriaeth.

Marcus North yw’r chwaraewr tramor ar gyfer y gystadleuaeth honno, ond fydd e ddim ar gael am gyfnod oherwydd marwolaeth yn y teulu.