Llwyddodd byrddau iechyd Cymru i gyrraedd eu targedau ariannol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond mae adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru’n dweud bod eu dulliau’n annigonol.
Dywed yr adroddiad bod rhai meysydd o fewn y Gwasanaeth Iechyd wedi dirywio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod heriau o’u blaenau o hyd.
Mae’r adroddiad yn asesu perfformiad, ac wedi dod i’r casgliad bod targedau’n cael eu cyrraedd ar y cyfan, a chleifion yn treulio llai o amser yn yr ysbyty.
Ond dywed yr adroddiad nad yw’r Gwasanaeth Iechyd wedi llwyddo i ddarganfod dulliau cynaliadwy o arbed arian, gyda diffyg o £210 miliwn yn rhoi pwysau ar wasanaethau.
Fe allai hynny olygu, yn ôl yr adroddiad, y bydd rhaid torri rhagor o wasanaethau er mwyn cadw’r ddysgl yn wastad.
‘Dibynnu ar arbedion anghynaladwy’
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: “Mae’r GIG yng Nghymru wedi gweithio’n galed i fantoli’r gyllideb yn 2012-13.
“Ond dim ond rhan fach o’r stori yw hynny.
“Nododd cyrff y Gwasanaeth Iechyd eu bod wedi llwyddo i wneud tua £190 miliwn o arbedion yn 2012-13: swm sylweddol er gwaethaf y ffaith ei fod rhyw £100 miliwn yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
“Ymddengys fod rhai o’r arbedion hyn a gofnodwyd wedi’u gorddatgan a bod cyrff y GIG yn dibynnu ar arbedion untro anghynaladwy er mwyn mantoli’r gyllideb.
“Gostyngodd rhai o gyrff y GIG driniaethau cynlluniedig er mwyn eu helpu i reoli gwasanaethau argyfwng a phwysau ariannol.
“Mae’r adroddiad hefyd yn argymell bod angen gwella trefniadau cynllunio cyrff y GIG. Ar ddechrau’r flwyddyn, lluniodd cyrff y GIG gynlluniau ariannol a oedd yn dangos, yn dechnegol, bod ganddynt ddigon o incwm a chynilion i gyfateb i’w gwariant, ond yn aml, nid oedd y cynlluniau hyn yn cynnwys llawer o gynlluniau manwl, os o gwbl, yn dangos sut y byddent yn cael eu cyflawni drwy newidiadau i wasanaethau neu’r gweithlu.
“Mae cyfleoedd sylweddol i wella’r broses o integreiddio cynlluniau ariannol, cynlluniau gwasanaeth a chynlluniau’r gweithlu ymhob rhan o GIG Cymru.”
‘Her ariannol sylweddol ‘
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar: “Mae’r adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn tynnu sylw at yr her ariannol sylweddol sy’n wynebu byrddau iechyd Cymru ac mae’n cyfeirio at arbedion anghynaladwy sydd wedi effeithio ar y gofal a’r gwasanaethau a ddarparwyd i gleifion yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
“Mae’r ffaith bod rhai byrddau iechyd wedi gohirio llawdriniaethau er mwyn mantoli’r gyllideb, gan adael miloedd o bobol yn aros am driniaeth fawr ei angen, yn achosi problemau ymhellach i lawr y lein.”
Ychwanegodd y byddai’r pwyllgor yn craffu ar yr adroddiad yn ddiweddarach eleni.