Mae rhai o sefydliadau mwyaf blaenllaw Cymru ynghyd â rhai o’r arweinwyr busnes amlycaf yn cefnogi ymgyrch i wneud Cymru’n arloeswr byd ym maes datblygu cynaliadwy.
Mae cynghrair o fwy na 20 o sefydliadau yn cyhoeddi dogfen heddiw sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod y Bil Datblygu Cynaliadwy yn gosod dyletswydd ar y llywodraeth a chyrff cyhoeddus i sicrhau datblygu cynaliadwy.
Maen nhw’n datgan bod gwir angen i’r ddeddfwriaeth newydd ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â’r bobl sy’n fyw heddiw. Yn eu dogfen, Llunio ein Dyfodol, mae’r gynghrair yn galw ar sefydlu Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy dros Gymru er mwyn sicrhau fod awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau.
Mae’r grŵp, sydd wedi derbyn cefnogaeth yr arweinydd busnes Syr Stuart Rose, yn dweud y bydd y mesur newydd yn penderfynu sut y bydd Cymru’n datblygu dros y degawdau nesaf ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi eu cynllun.
‘Cyfraith gref’
Mae cyhoeddi’r ddogfen yn dilyn pryder gan ymgyrchwyr bod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyfraith hyd yma wedi bod “yn rhy wan i wireddu’r addewidion beiddgar a wnaed gan weinidogion.” Mae’r sefydliadau’n gobeithio, gyda gweinidog newydd, Jeff Cuthbert, yn arwain y gwaith o ddatblygu’r gyfraith, y bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi eu cynllun amgen.
Gan siarad ar ran y sefydliadau, dywedodd Haf Elgar: “Rydyn ni’n cyflwyno cynllun ar gyfer cyfraith gref a fyddai’n sicrhau buddion gwirioneddol i bobl ac i’r blaned. Drwy osod dyletswydd glir ar awdurdodau cyhoeddus i gyflawni datblygu cynaliadwy, byddai gweinidogion yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar gyfer y tymor hir, fel creu swyddi mewn ffyrdd sy’n brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, gwneud penderfyniadau cynllunio sy’n cefnogi cymunedau Cymraeg, a sicrhau bod bwyd lleol, iach ar gael i bawb.”
Dywedodd Syr Stuart Rose: “Mae’r Bil Datblygu Cynaliadwy yn cynnig y gobaith cyffrous y bydd Cymru’n arwain ar greu economi gynaliadwy, sy’n garbon isel, yn effeithlon wrth ddefnyddio adnoddau ac yn gyfrifol yn gymdeithasol. Rwy’n cefnogi’r ymgyrch hon am gyfraith gref sy’n helpu i sicrhau economi gynaliadwy.”
Ymysg y rhai sydd wedi ymrestru i’r gynghrair mae WWF Cymru, RSPB Cymru, Oxfam Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.