April Jones
Mae mam April Jones wedi diolch i bobl am gefnogi gêm bêl-droed arbennig i godi arian ar gyfer cronfa apêl.
Fe gafodd y gêm bêl-droed ei chwarae ym Machynlleth ac ymhlith y chwaraewyr oedd cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman, cyn-ymosodwr Arsenal a West Ham, John Hartson a chyn-asgellwr Newcastle United, Malcolm Allen.
Daeth oddeutu 700 o bobl i wylio’r gêm rhwng chwaraewyr lleol a thîm Cymru gyda’r tîm cartref yn gwisgo pinc, hoff liw’r ferch 5 oed a gafodd ei llofruddio ym mis Hydref y llynedd.
Cyn i’r gêm ddechrau fe ddiolchodd Coral Jones i drigolion Machynlleth ynghyd â’r chwaraewyr am y gefnogaeth a roddwyd i’r teulu yn dilyn diflaniad April y llynedd.
Wrth annerch y dorf, dywedodd Chris Coleman: “Rydym i gyd wedi dod yma i gael gem fach o bêl-droed a cheisio’n gorau i roi gwên ar wynebau rhai pobl sydd wedi bod trwy gymaint.”
Mae cronfa April Jones wedi codi £73,000 hyd yma ond mae disgwyl i’r apêl gau fis Medi eleni.
Y tîm cartref oedd yn fuddugol gan guro tîm Cymru o 6 – 2.
Ym mis Mai eleni fe gafodd Mark Bridger ei garcharu am oes am gipio a llofruddio April Jones.