Fe fydd Abertawe yn torri eu record am drosglwyddiad chwaraewyr pan fydd Wilfried Bony yn arwyddo i’r clwb yn ddiweddarach heddiw.

Daeth cadarnhad ddoe bod yr ymosodwr o’r Iseldiroedd, sy’n chwarae i glwb Vitesse Arnhem, wedi cytuno ar amodau ei gytundeb, ac mae disgwyl iddo gael ei ddatgelu gan y clwb heddiw.

Fe fydd y gŵr o’r Arfordir Ifori yn costio £13 miliwn, sy’n trechu’r record blaenorol o £5.5 miliwn am Pablo Hernandez o Valencia.

Neithiwr ar wefan Trydar, ymddangosodd llun o Wilfried Bony yn dal crys Abertawe gyda chadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins yn ei ymyl.

Mae’r Elyrch wedi bod ar daith ymarfer i’r Iseldiroedd yr wythnos hon.

Cafodd Bony, sy’n 24 oed, ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Iseldiroedd yn 2012-13, ar ôl sgorio 31 gôl yn yr Eredivisie, Uwch Gynghrair yr Iseldiroedd.

Mae’r Elyrch eisoes wedi arwyddo chwe chwaraewr yn ystod yr haf, yn dilyn ansicrwydd am eu polisi trosglwyddiadau.

Fe fydd Bony yn ymuno â Jonjo Shelvey, Alejandro Pozuelo, Jose Canas, Jordi Amat, Gregor Zabret ac Alex Gogic.

Mae’r Elyrch hefyd wedi sicrhau eu bod nhw’n cadw’r chwaraewr canol-cae, Jonathan de Guzman ar fenthyg am dymor arall, ac fe allai’r trosglwyddiad ddod yn barhaol ar ddiwedd y tymor hwn.