Tafarn Ty Coch, Porthdinllaen
Mae tafarn ym Mhen Llŷn wedi cael ei enwi’n un o dafarndai glan môr gorau’r byd.

Mae tafarn y Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen yn drydydd ar y rhestr a gafodd ei roi at ei gilydd gan wefan cheapflights.com. Ymhlith y llefydd eraill sydd yn y 10 uchaf mae Bar Pelican yn Negril, Jamaica, Beach Pavilion ar Ynys Hayman yn Awstralia a Bar Barcoli yn Dubai.

Cafodd y Tŷ Coch ei adeiladu yn 1823 fel ficerdy yn wreiddiol cyn iddo gael ei agor fel tafarn yn 1842 i fwydo adeiladwyr llongau gerllaw.

Dywed Cheapfilghts bod y dafarn wedi gwneud cystal oherwydd ei lleoliad gyda golygfeydd tua’r Eifl ac Eryri.

Mae Porthdinllaen yn bentref bach arfordirol ar Benrhyn Llŷn ac wedi bod yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1994.

Dim ond tua dau ddwsin o adeiladau sydd yno ac mae’n rhaid i ymwelwyr gerdded ar draws y traeth o Morfa Nefyn neu ar draws y cwrs golff ar ben y pentir i gyrraedd y dafarn.

Wrth sôn am y dafarn, dywedodd gwefan Cheapflights: “Dewch i ymlacio, dadflino, codi peint, anadlu awyr y môr a gwyliwch y tonnau yn dod i mewn.”