Cynllun Morlyn Llanw Bae Abertawe
Mae ap wedi cael ei lansio yn Abertawe er mwyn arddangos cynlluniau ar gyfer y prosiect morlyn llanw cyntaf o’i fath yn y byd.
Nod prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe yw rheoli ynni naturiol trwy godi morglawdd artiffisial a chyfres o dyrbinau i ddal ynni a thrydan sy’n cael ei gynhyrchu o lanw’r môr.
Bydd y prosiect wedi’i leoli yn nociau’r ddinas.
Y gobaith yw y bydd y prosiect, sy’n costio nifer o filiynau o bunnoedd, yn cynhyrchu 400GWh o drydan ar gyfer hyd at 120,000 o gartrefi.
Bydd y cyfleusterau ar y safle’n cynnwys adnoddau addysgol a chwaraeon.
Pe bai’r cynlluniau’n cael eu derbyn, fe allai’r prosiect greu 2,800 o swyddi.
Mae disgwyl iddo roi hwb o £650 miliwn i’r economi leol.
Fe allai’r gwaith o godi’r Morlyn ddechrau ym mis Ebrill 2015.
Fe fydd cyfnod ymgynghori yn dechrau ddydd Iau, ac yn para tan Awst 5.
Bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar rai o’r anawsterau fydd yn cael eu hachosi yn ystod y cyfnod adeiladu, gan gynnwys oedi ar y ffyrdd, yr effaith ar yr amgylchedd, ansawdd dŵr i gartrefi a nifer o ffactorau eraill.
Bydd cyfle i drigolion lleol gael lleisio’u barn am y cynlluniau yn ystod yr ymgynghoriad trwy gyfres o ddigwyddiadau yn ystod mis Gorffennaf yn ardal Abertawe a Phort Talbot.