Robin Owain
Mae Wikimedia wedi penodi Robin Owain fel eu rheolwr cyntaf yng Nghymru.
Mewn cytundeb sydd i bara’ deuddeg mis, bydd Robin Owain yn arwain cynllun i ehangu’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru. Bydd yn rhan o brosiect ‘Llwybrau Byw’ sy’n cynnwys ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd ledled Cymru.
Dywedodd Robin Owain: “Mae mynd i mewn i ganol y gweithgareddau gan ddangos i werin Cymru be allant wneud yn rhoi byz anhygoel i mi; gall bawb fod yn awdur, yn gyhoeddwr ac yn addysgwr drwy gyfrwng Wicipedia, a rhoi yn ôl rhywbeth gwerthfawr iawn i gymdeithas.”
Mae Prif Weithredwr Wikimedia UK, Jon Davies wedi croesawu penodiad Robin Owain. Meddai: “Mae penodiad Robin fel ein rheolwr yng Nghymru yn rhan hanfodol o’n strategaeth. Er gwaetha’r ffaith fy mod yn hanner Cymro fy hun, mae fy ngwybodaeth o’r Gymraeg yn fach ond dwi’n falch fy mod yn gallu cynorthwyo i’w bywiogi fel hyn.”
Wicipedia Cymraeg yw’r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd ac mae’n rhan o gwmni Wikimedia UK, elusen restredig sy’n casglu, datblygu a didoli gwybodaeth.