Gwesty'r Cann Office - (llun o wefan diningpubs.co.uk)
Fe fydd Gŵyl Cann Office yn dechrau yn Llangadfan ym Mhowys heno gyda Steddfod Dafarn yng nghwmni’r comedïwr Dilwyn Morgan.
Hon yw degfed flwyddyn yr ŵyl, ac mae yna lu o ddigwyddiadau dros y penwythnos i ddathlu’r achlysur.
Yn ystod y dydd fory, fe fydd sesiynau yn benodol i blant, gan gynnwys sesiwn dysgu chwarae drymiau.
Yn y prynhawn, fe fydd Anni Llyn a chriw Stwnsh ar gael i ddiddanu am 1pm, cyn i Mei Mac a chriw o feirdd gynnig Ymryson y Beirdd am 3pm.
Yn y nos, fe fydd gig mawreddog yn dechrau gyda’r canwr lleol Dan Gilydd, ac yn cynnwys Swnami, Y Bandana, Candelas a Celt.
Fe fydd y bandiau’n dychwelyd i’r gwesty ddydd Sul am sesiwn jamio yn ystod y dydd.
Dywedodd un o’r trefnwyr, Delyth Roberts wrth Golwg360: “Mae ’na babell fawr y tu allan i’r gwesty ar gyfer yr holl ddigwyddiadau.
“Mae criw o saith ohonan ni wedi bod wrthi’n trefnu ers rhyw chwe mis.
“Cost y penwythnos cyfan ydy £10, a’r ŵyl yn ei degfed flwyddyn eleni, wedi iddi gael ei sefydlu yn dilyn Steddfod Meifod.”