Alex Mills
Mae’r unig Gymro ar raglen The Apprentice wedi gadael y gyfres neithiwr.
Cafodd Alex Mills, 23 o Gaerdydd ei ddiswyddo gan yr Arglwydd Sugar ar ôl methu mewn tasg o greu bwydydd cyflym ar gyfer rhai o brif archfarchnadoedd Prydain.
Awgrymodd Alex yr enw “popty ping” fel enw brand ar gyfer cynnyrch y tim gan egluro wrth yr Arglwydd Sugar mai “popty ping” yw’r enw Cymraeg am “microwave”. Ond yr enw ‘Deadly Dinners’ aeth a hi, a chollodd y tim y dasg.
Daeth Alex yn adnabyddus am ei eiliau trawiadol a’i bersonoliaeth cryf ac mae nawr yn bwriadu rhedeg busnes cyfreithiol yng Nghaerdydd, yn cynnig gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i gwsmeriaid.
Wrth gael gwared ag Alex, dywedodd yr Arglwydd Sugar: “Rwyt yn berson ifanc iawn ac mae’n rhaid i mi ddweud, am un sydd mor ifanc, rwy’n dy edmygu