Mae maes carafanau’r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych bron yn llawn, meddai’r trefnwyr.
Gyda dim ond ychydig wythnosau i fynd tan y brifwyl, mae cannoedd o wersyllwyr eisoes wedi archebu lle ar y maes, ac mae trefnwyr yn annog pobl i fynd ati i drefnu safle cyn iddyn nhw werthu.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst eleni.
‘Poblogaidd iawn’
“Mae’r maes carafanau wedi bod yn hynod boblogaidd eleni, a chyda’r lleoliad mor hwylus ar gyfer y Maes a thref Dinbych, roedd hynny i’w ddisgwyl,” meddai trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards.
“Dros y blynyddoedd, mae maes carafanau’r Eisteddfod wedi datblygu i fod yn ardal hynod gyfeillgar a hwyliog o’r Brifwyl, ac mae’n argoeli y bydd hyn eto’n digwydd eleni. Ychydig iawn o lefydd ar gyfer yr wythnos gyfan sydd ar ôl erbyn hyn felly os ydych chi eisiau dod atom i Ddinbych, dylech fynd ati i archebu’n syth.”
Eleni mi fydd y maes carafanau yn gyfochrog â Maes yr Eisteddfod ei hun.