Damian Green
Fe fydd yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth wrth godi carchar newydd yng ngogledd Cymru, meddai’r gweinidog carchardai.

Roedd yna gwestiynau iaith i’w hystyried, meddai Damian Green, ac fe fyddai hynny’n cynnwys y Gymraeg.

Ond, wrth siarad ar Radio Wales, wnaeth e ddim rhoi addewid pendant am natur y ddarpariaeth.

Doedd e ddim yn fodlon cadarnhau chwaith mai yn Wrecsam y byddai’r carchar mawr newydd ar gyfer tua 2,000 o garcharorion.

Ond dyna oedd un o’r safleoedd dan sylw, meddai, wrth bwysleisio y byddai’r carchar yn gwneud cyfraniad mawr at economi’r Gogledd.