Jane Hutt
Mae Llywodraeth Cymru’n hawlio eu bod wedi achub mwy na £300 miliwn i Gymru yn ystod y saith mlynedd nesa’.

Ar un adeg, roedd peryg i Gymru golli £400 miliwn yn ei harian o Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd rhwng 2014 a 2020 – ddoe fe ddaeth cyhoeddiad mai dim ond £63 miliwn fydd y gostyngiad yn y pen draw.

Llywodraeth Prydain sy’n cau’r bwlch ac, yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, roedd y newid yn ganlyniad i bwysau o Gaerdydd.

Ond roedd hi’n rhybuddio hefyd y byddai’r toriadau’n creu caledi, o’u hychwanegu at y toriadau cyffredinol mewn gwario cyhoeddus.#

Y cefndir

Roedd Cyngor Ewrop wedi pleidleisio ynghynt eleni i dorri’r Cronfeydd Strwythurol ac roedd y dadlau tros gyfraniad Llywodraeth Prydain i gau’r bwlch.

Yn gyfan gwbl, fe fydd Cymru’n derbyn ychydig tros £2 biliwn rhwng 2014-20 o’i gymharu ag £1.9 biliwn rhwng 2007-13.

Fe ddywedodd Jane Hutt ei bod yn gobeithio y bydd Senedd Ewrop yn pleidleisio’r wythnos nesa’ o blaid Cyllideb yr Undeb Ewropeaidd – byddai hynny’n caniatáu i’r taliadau rhanbarthol newydd ddechrau mewn pryd yn 2014.