Mae daeargryn bychan wedi taro ardal Pen Llyn yn hwyr nos Fercher, wythnosau’n unig ers i ddaeargryn yn mesur 3.8 daro’r ardal.
Roedd y daeargryn wedi ei ganoli ym Mhorth Colmon ac yn mesur 2.8 ar raddfa Richter yn ôl yr Arolwg Daearegol Prydeinig, ond cafodd ei deimlo ar draws Gwynedd gyfan.
Tarodd y daeargryn toc wedi 11.28yh gydag adroddiadau ei fod wedi cael ei deimlo yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog ac Ynys Môn.
Dywedodd Gareth Jones sy’n rhedeg siop Eleri Stores yn Aberdaron: “Clywais sŵn oedd wedi para’ am tua phedair eiliad. Er nad oedd cymaint â’r daeargryn rai wythnosau yn ôl, roedd yn ddigon i ddeffro’r wraig a’r ferch. Mae pawb yn siarad am y daeargryn ym Mhen Llyn heddiw”.
Ar 29 Mai tarodd daeargryn cryfach ardal Pen Llyn yn ystod oriau man y bore. Cafodd dirgryniadau eu teimlo mor bell i ffwrdd a Rhuthun yn Sir Ddinbych a Dulyn yn Iwerddon.
Cafodd ardal Pen Llyn ei tharo â daeargryn cryf yn mesur 5.4 ar raddfa Richter yn 1984 a hwn oedd y daeargryn cryfaf i daro’r tir mawr ym Mhrydain ers 200 o flynyddoedd.