Jane Hutt
Fe fydd gwaith Llywodraeth Cymru’n cael ei wneud yn anoddach gan ddatganiad gwario Canghellor  Prydain ddoe, meddai’r Gweinidog Ariannol, Jane Hutt.

Mae hi’n dweud y bydd cyllideb y Llywodraeth wedi gostwng o £1.68 biliwn tros gyfnod o bum mlynedd erbyn 2015-16.

Roedd hi’n arbennig o feirniadol o fethiant George Osborne i roi hwb sylweddol i wario cyfalaf – roedd hi a gweinidogion ariannol yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi sgrifennu at y Canghellor yn gofyn am hynny.

Yn ôl Jane Hutt, mae’r arian ar gyfer gwario cyfalaf am fod draean yn is nag yr oedd yn 2009-10 ac mae cyfyngiadau ar beth o’r gwario hefyd.

Croesawu tri pheth

Roedd hi’n croesawu rhai o’r datganiadau:

  • Na fydd dim toriadau pellach yn arian S4C.
  • Fod Llywodraeth Prydain yn ystyried y cynlluniau ar gyfer M4 newydd yn y De-ddwyrain.
  • Y bydd penderfyniad buan ar argymhellion Comisiwn Silk i ddatganoli rhai hawliau trethu.

Addewid

Fe ddywedodd Jane Hutt y byddai’n ceisio dwyn y trafodaethau am Silk a’r M4 i ben yn llwyddiannus yn ystod yr wythnosau nesa’.

Yn gyffredinol, fe ddywedodd: “R’yn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i reoli effaith y toriadau cyllid ar bobol a chymunedau ar hyd a lled Cymru.”