Kim Buckley gyda'i wyres Kimberley
Fe fydd achos yn erbyn dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio tair cenhedlaeth o’r un teulu yn parhau yn Llys y Goron Casnewydd heddiw.
Mae Carl Mills, 28, wedi ei gyhuddo o dri chyhuddiad o lofruddiaeth wedi i Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a’i wyres chwe mis oed Kimberley farw mewn tân yn eu cartref yng Nghwmbrân ym mis Medi 2012.
Ddoe clywodd y rheithgor ei fod wedi anfon neges destun at ei gariad yn bygwth llosgi tŷ ei gariad i’r llawr.
Dywedodd Gregory Bull QC ar ran yr erlyniad sut yr oedd Mills yn “obsesiynol” ac yn “genfigennus” o Kayleigh, gan ofni ei bod yn gweld bechgyn eraill.
Ar ôl i Mills dreulio cyfnod aflwyddiannus yn byw yng nghartref teulu Kayleigh, fe glywodd y llys ei fod wedi anfon nifer o negeseuon testun bygythiol ati, a dim ond awr cyn i’r tŷ gael ei roi ar dân, fe anfonodd neges at fam ei blentyn yn dweud: “Mi na’i losgi dy dŷ i lawr.”
Mae Mills, sy’n wreiddiol o Fanceinion, yn gwadu’r tri chyhuddiad.