Huw Lewis
Fe fydd Huw Lewis yn dechrau ar ei waith fel Gweinidog Addysg newydd Llywodraeth Cymru heddiw.
Cafodd ei benodi ddoe yn dilyn ymddiswyddiad ei ragflaenydd Leighton Andrews ddydd Mawrth tros brotest yn erbyn cau ysgolion, gan arwain at ad-drefnu’r cabinet.
Dywedodd Huw Lewis ei fod yn edrych ymlaen at ddilyn trywydd Leighton Andrews.
Carwyn Jones fydd yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg.
Mae Vaughan Gething yn benodiad newydd ac yn cael swydd Ddirprwy Weinidog Trechu Tlodi.
Mae Ken Skates wedi symud o’r meinciau cefn ac wedi ei benodi yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg a Jeff Cuthbert wedi ei benodi yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
Wrth sôn am y penodiadau newydd, dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:
“Blaenoriaethau’r Llywodraeth o hyd yw gwella safonau addysg a pherfformiad yn ein hysgolion, gwella sylfaen sgiliau’r wlad, trechu tlodi a chreu cyfleoedd ar gyfer pobl Cymru.
“Bydd y penodiadau hyn heddiw yn sicrhau ein bod yn gwireddu’r ymrwymiadau hyn ar ran pobl Cymru.”