Yr Athro Merfyn Jones, sydd wedi ymddiswyddo
Mae cadeirydd a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiswyddo yn dilyn adroddiad damniol i fethiannau rheoli’r bwrdd a allai fod wedi rhoi diogelwch cleifion mewn perygl.

Mae’r Athro Merfyn Jones eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo ac mae disgwyl i’r Prif Weithredwr Mary Burrows hefyd adael ei swydd.

Mae’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi codi pryderon sylweddol nad oedd gan y bwrdd y gallu i gadw llygad yn iawn ar safon gwasnaethau a’i fod hefyd yn wynebu “her ariannol sylweddol.”

Bwlch rhwng y ward a’r Bwrdd

Dywed yr adroddiad bod y methiannau mewn rheoli wedi cyfrannu at “y bwlch rhwng y ward a’r Bwrdd”.

Fe ddaeth hynny i’r amlwg, medden nhw, yn  y ffordd yr oedd y Bwrdd yn ymdrin â rheoli heintiau C Difficile ar wardiau ysbytai. Darganfuwyd achosion o’r haint yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Mai eleni a chafodd ei nodi ar dystysgrif marwolaeth saith o gleifion.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod y “berthynas weithio bresennol rhwng Cadeirydd y Bwrdd Iechyd a’i Brif Weithredwr yn creu heriau gwirioneddol i’r Bwrdd”.

Dywedodd yr Athro Merfyn Jones ei fod yn “briodol o dan yr amgylchiadau” iddo ymddiswyddo fel cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’i fod wedi rhoi gwybod i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford o’i fwriad.

‘Camau brys’

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod y cyfrifoldeb am y problemau a’r methiannau yn y Bwrdd Iechyd yn gorwedd gyda’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr ac y dylen nhw adael eu swyddi.

“Mae’n rhaid i benaethiaid y GIG gyfaddef y risgiau mae cleifion wedi’u hwynebu a faint o farwolaethau cynamserol sydd wedi bod o ganlyniad i C Difficile a heintiau eraill y gellir eu hatal mewn ysbytai yng ngogledd Cymru o ganlyniad i’r methiannau llywodraethu sydd wedi dod i’r amlwg yn yr adroddiad.

“Er mwyn diogelwch cleifion mae’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd ymyrryd er mwyn cymryd camau brys i adfer hyder cleifion ar draws y rhanbarth.”

“Dyma’r adroddiad gwaetha’ yr ydw i wedi ei weld mewn 25 mlynedd o fywyd cyhoeddus,” meddai’r AC dros Ogledd Cymru, Aled Roberts.

Roedd rhai llawdriniaethau’n cael eu canslo er mwyn cwrdd â thargedau ariannol, meddai ar Radio Wales.