Huw Lewis
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi penodi Huw Lewis  fel Gweinidog Addysg newydd Llywodraeth Cymru.

Mae penodiad Huw Lewis  yn dilyn ymddiswyddiad Leighton Andrews ddoe tros brotest yn erbyn cau ysgolion, gan arwain at ad-drefnu’r cabinet heddiw.

Carwyn Jones fydd yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r newyddion.

Mae Vaughan Gething yn benodiad newydd ac yn cael swydd Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.

Mae Ken Skates wedi symud o’r meinciau cefn ac wedi ei benodi yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg a Jeff Cuthbert wedi ei benodi yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

Dywedodd Huw Lewis ar Twitter: “Wrth fy modd i gael fy mhenodi yn Weinidog Addysg a Sgiliau ac adeiladu ar y safonau a osodwyd gan Leighton Andrews.”

Ac wrth longyfarch Huw Lewis ar ei benodiad dywedodd Leighton Andrews ar Twitter: “Fe fydd yn cadw ffocws cryf ar godi safonau.”

Cefndir Huw Lewis

Cafodd Huw Lewis ei ethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Cafodd ei eni ym Merthyr Tudful ym 1964 a’i addysgu ym Mhrifysgol Caeredin. Mae’n gyn-athro cemeg ac mae ei ddiddordebau’n cynnwys addysg a’r heriau sy’n wynebu cymoedd y De.

Cafodd ei benodi yn Ddirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyda chyfrifoldeb arbennig dros Adfywio cyn colli ei swydd yn yr ad-drefnu a ddilynodd ffurfio’r llywodraeth glymblaid. Mae wedi adolygu rhaglen flaengar Llywodraeth Cymru yn erbyn tlodi, sef Cymunedau’n Gyntaf, ac wedi ysgrifennu Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu tlodi plant.

Ym mis Rhagfyr 2009, cafodd ei benodi yn Ddirprwy Weinidog dros Blant.  Ar ôl ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, fe’i penodwyd  yn Weinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ac ym mis Mawrth 2013, cafodd ei benodi yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

‘Rhoi statws i’r iaith’

Mae’r mudiad iaith Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu’r ffaith mai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones fydd  yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

Dywedodd llefarydd: “Fe fydd hyn yn rhoi statws i’r iaith ar draws holl waith y llywodraeth. Mae Dyfodol yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn rhoi arweiniad i’w weinidogion yn y cabinet parthed yr iaith.”

Dywedodd Cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd: “Mae angen ystyried lle’r iaith Gymraeg ar draws pob un o feysydd gwaith y llywodraeth, o’r economi i gynllunio, o addysg i iechyd, o dai i gymunedau.  O roi cyfrifoldeb am y Gymraeg o fewn swyddfa’r Prif Weinidog rydym yn ffyddiog y bydd yr iaith yn cael sylw teilwng.”

Pwysau ar Leighton Andrews i adael

Roedd y pwysau ar Leighton Andrews wedi cynyddu ers iddo gael ei weld yn dal placard yn gwrthwynebu cau Ysgol Gynradd Pentre yn ei etholaeth yn y Rhondda – er fod y cyngor lleol yn dweud mai ei bolisïau ef ei hun oedd yn gyfrifol am hynny.

Yr wythnos ddiwetha’ roedd Carwyn Jones wedi beirniadu Leighton Andrews am brotest debyg yn erbyn cau gwasanaeth mewn ysbyty.