Mae heddlu sy’n ymchwilio i achosion o gam-drin rhywiol mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru wedi arestio dyn yng Nghaerlŷr heddiw.
Arestiwyd y dyn 62 oed ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar dri bachgen rhwng 12 a 14 oed rhwng 1969 a 1984.
Mae disgwyl i’r dyn gael ei holi mewn gorsaf heddlu yng Nghaerlŷr.
Cafodd y dyn ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial i achosion o gam-drin mewn cartrefi gofal, a dyma’r ail berson i gael ei arestio ers i’r ymchwiliad gychwyn fis Tachwedd y llynedd.
Mae’r ymchwiliad i gam-drin mewn cartrefi gofal wedi clywed honiadau fod 84 o bobl yn gyfrifol am ymosodiadau rhywiol rhwng 1963 a 1992.
Mae Ymchwiliad Pallial yn un o ddau ymchwiliad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog David Cameron ar ôl i Steve Meesham honni ar gam fod yr Arglwydd McAlpine wedi ei gam-drin.