Mae Cyfoeth Naturiol Cymru am fuddsoddi £500,000 ar unwaith i ddelio â chlefyd sy’n ymosod ar goed llarwydd ym Mhrydain.

Mae’r corff newydd, sy’n gofalu am amgylchedd Cymru,  wedi neilltuo dros £2 filiwn i fynd i’r afael â’r haint – Phytophthora ramorum – trwy dorri coed i geisio rhwystro’r clefyd rhag lledaenu ymhellach.

Dywedodd Trefor Owen o Gyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r ymateb hwn yn dangos pa mor bryderus ydym ni ynghylch y clefyd hwn oherwydd ei effaith ar farchnadoedd coed, y dirwedd, coetir a chynefinoedd eraill.

“Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a pherchnogion coedwigoedd yr effeithiwyd arnynt i weld sut y gallwn leihau effeithiau economaidd ac effeithiau eraill.”

Bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru yw gwario £1.7 miliwn ar gael gwared a choed sydd wedi ei heintio ac ailblannu coed yn eu lle.

Mae oddeutu 1,200 hectar o goed llarwydd eisoes wedi’u torri yng Nghymru ers i’r haint gael ei ddarganfod am y tro cyntaf ym Mehefin 2010 mewn coed yng Nghwm Afan.