Dywedodd y Blaid Lafur yng Nghymru bod Adolygiad Gwariant y Canghellor yn profi  “methiant ei lywodraeth i fynd i’r afael a’r diffyg ariannol yn ystod y Senedd hon.”

Yn ôl llefarydd y blaid Owen Smith: “Rydym wedi cael economi sefydlog  ers y tair blynedd diwethaf, ac mae’r adolygiad gwariant heddiw yn dangos y bydd y boen yn parhau ymhell i mewn i’r Senedd nesaf.

“Mae Cymru eisoes wedi dioddef mwy  na rhannau eraill o’r wlad, gyda chyflogau yn nhermau real yn gostwng £1,600 ers 2010, a bydd y toriad pellach a gyhoeddwyd heddiw yn golygu bydd cyllideb Llywodraeth Cymru wedi gostwng gan fwy na 10% ers i’r Glymblaid yn San Steffan ddod i rym.”

Roedd  Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, wedi croesawu rhai elfennau o’r cyhoeddiad. “Yr wyf yn falch o glywed y Canghellor yn ymrwymo i roi ymateb i Adroddiad Silk yn y dyfodol agos a’i fod yn cydnabod ein cynlluniau ar gyfer uwchraddio’r M4,” meddai.

Plaid Cymru

“Creu darlun llwm o galedi pellach i Gymru,” oedd ymateb llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS.

“Mae’r toriadau wedi bod yn fethiant llwyr – mae’n bolisi cwbl wrthgynhyrchiol sydd wedi arwain at economi gwan neu ddisymud dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae hyd yn oed yr IMF wedi sylweddoli methiant y trywydd hwn ac wedi galw ar y Llywodraeth i arafu cyn cyflwyno rhagor o doriadau a gwario mwy ar isadeiledd er mwyn hybu’r economi.”

Democratiaid Rhyddfrydol

Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol pwysleisio eu rôl nhw yn yr Adolygiad Gwariant.

Yn ôl Mark Williams AS, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Faterion Cymreig, “Mae’r gwariant yma’n cyflwyno blaenoriaethau’r Democratiaid Rhyddfrydol ar fuddsoddi a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus wrth wneud dewisiadau cyfrifol i ddelio â’r problemau ariannol a adawyd i ni gan Lafur.”

Roedd Mark Williams hefyd yn falch bod  Llywodraeth Glymblaid San Steffan wedi medru cynyddu’r dyraniadau cyfalaf o 0.3% mewn termau real i gyllideb Llywodraeth Cymru a fyddai “yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio gwariant ar brosiectau isadeiledd a chefnogi twf yn yr economi,” meddai.

Ceidwadwyr

Dywedodd  Paul Davies AC, llefarydd Cyllid y Ceidwadwyr yng Nghymru: “Mae’r adolygiad o wariant yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth y DU ar gyfer sicrhau tegwch a blaenoriaethu twf yr economi.”

Roedd Suzy Davies, llefarydd diwylliant y blaid, hefyd yn  croesawu’r newyddion na fyddai cyllid S4C yn cael ei ostwng.

“Mae hyn yn atgyfnerthu cefnogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer y darlledwr iaith Gymraeg.

“Mae S4C yn gwneud cyfraniad enfawr tuag at ein diwydiannau creadigol ac yr wyf yn croesawu’r cyhoeddiad hwn.”