Mae S4C wedi croesawu’r newyddion heddiw na fydd toriadau i’w chyllideb S4C.

Roedd na bryderon y byddai’r Canghellor George Osborne am gwneud toriadau pellach i’r sianel yn ei Adolygiad Gwariant  ar gyfer 2015/16 a gyhoeddwyd heddiw.

Derbyniodd S4C £6.7 miliwn gan yr Adran Dddiwylliant,  Cyfryngau a Chwaraeon yn 2013 gyda’r gweddill yn cael ei ariannu yn bennaf drwy ffi drwydded y BBC.

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones bod y sianel yn falch o ddeall na fydd toriadau eraill am y tro: “Mae S4C yn falch iawn o ddeall y bydd ymrwymiad ariannol Llywodraeth y DU i S4C yn parhau.

“Mae S4C wedi gweithio’n agos gyda Gweinidogion Swyddfa Cymru, gydag aelodau seneddol egnïol, gydag aelodau amlwg o’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru a gydag aelodau o Dŷ’r Arglwyddi i geisio sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall arwyddocâd pellgyrhaeddol unrhyw benderfyniad mewn perthynas ag ariannu S4C.

“Mae’r cyhoeddiad yma’n adlewyrchu grym y dadleuon a gyflwynwyd ganddynt. Rydym yn ddiolchgar iddynt oll am eu hymdrechion ac i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Diwylliant am wrando arnynt.”

Ymrwymiad y Llywodraeth i S4C

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw’n atgyfnerthu ymrwymiad y Llywodraeth i wasanaeth teledu Cymraeg gref ac annibynnol.

“Yn ddi-os, mae S4C wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r diwydiant creadigol yng Nghymru, ac yn allweddol iawn, i hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Yn wir, dyma’r unig sianel Gymraeg yn y byd.

“Rwy’n falch iawn bod y Canghellor wedi cydnabod pa mor bwysig yw S4C i bobl Cymru, a’i fod wedi gallu sicrhau’r cyllid ar gyfer 2015/16.

“Rwy’n hyderus bod dyfodol disglair i S4C, a bod gan y sianel y sefydlogrwydd a’r sicrwydd sy’n angenrheidiol i fynd o nerth i nerth.”

Canlyniad da iawn

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Maria Miller: “Mae’r ffaith ein bod ni wedi gallu i sicrhau na fydd S4C yn derbyn unrhyw ostyngiadau i’w chyllideb gan y Llywodraeth yn ganlyniad da iawn.

“Mae S4C yn gwneud cyfraniad aruthrol i fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru ac rydym yn falch o allu parhau, hyd yn oed mewn cyfnod economaidd anodd, i gefnogi darlledu iaith leiafrifol yng Nghymru.”

“Bydd cynnal y lefel ariannu gyfredol yn darparu’r sianel gyda sicrwydd sydd ei angen i barhau i fuddsoddi mewn, a chynhyrchu, rhaglenni Cymraeg o ansawdd uchel.”

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru dros dreftadaeth, Peter Black, ei fod yn croesawu’r ffaith nad yw’r ofnau am doriadau wedi ei gwireddu.

“Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar sylwadau gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ymhlith eraill ac wedi gadael yr arian hwn yn ei le. Mae angen i S4C gael sefydlogrwydd a sicrwydd ac mae hynny wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU heddiw. ”

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC, y corff sydd yn cynrychioli Cynhyrchwyr Annibynnol : “Mae aelodau TAC, wedi wynebu sawl toriad annisgwyl yn barod ac felly’n teimlo rhyddhad o weld y Llywodraeth yn cydnabod bod gan S4C werth diwylliannol ac ariannol, a’u bod wedi cymryd y cyfrifoldeb o  warchod yr ariannu yma.

“Mae pawb yn derbyn ein bod mewn cyfnod anodd, ond nid yw wedi gwneud unrhyw synnwyr erioed i gwtogi adnoddau S4C, pan ddylid ei ystyried yn fodd i annog twf yng Nghymru a thu hwnt.”