Fe gafodd cerddwr 33 oed o Lerpwl ei achub yng Ngwynedd neithiwr trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddara’.
Roedd wedi bod yn cerdded am 11 awr pan aeth ar goll ar lethrau Moel yr Hydd yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestigion.
Ond fe ffoniodd am help ychydig wedi 7 o’r gloch nos Sadwrn… ac fe ddaeth Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn o hyd iddo trwy ddefnyddio app ar ffôn clyfar.
Sut mae’r app yn gweithio?
* Mae’r app yn anfon neges destun at y sawl sydd ar goll.
* Unwaith y bydd y sawl sydd ar goll yn derbyn y neges, gall glicio ar ddolen sy’n dweud wrth y tîm achub lle mae o neu hi.
* Gwaith aelod o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yw’r app.