Rhun ap Iorwerth
Mae’r newyddiadurwr, Rhun ap Iorwerth, wedi cyhoeddi ei fwriad i geisio am enwebiad Plaid Cymru ar gyfer is-etholiad Cynulliad etholaeth Ynys Môn.

Mae hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i weithio i’r BBC.

“Mae nifer fawr o bobol wedi pwyso arnaf i geisio,” meddai Rhun ap Iorwerth mewn datganiad, “ac mae’r gefnogaeth sydd wedi ei dangos i fi dros y dyddiau diwethaf o blith aelodau’r blaid, trigolion Môn a mwyafrif helaeth cynghorwyr Plaid Cymru yr ynys wedi profi i fi y dylwn gynnig fy enw.

“Cael cynrychioli Ynys Môn fyddai yr anrhydedd fwyaf allwn i ei derbyn. Cefais i a fy ngwraig ein magu ar yr ynys, a rydym yn magu ein plant ninnau yma. Dyma ein cartref, ac ni allwn i beidio a chymryd y cyfle hwn i geisio sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bawb ym Môn.

“Fel newyddiadurwr, yn darlledu trwy Gymru a Phrydain dros gyfnod o bron i 20 mlynedd, mae’n amlwg na allwn fod yn wleidyddol cyn hyn.

“Dyna pam yr wyf yn gofyn am ganiatâd arbennig Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru i gynnig fy enw, fel aelod newydd o’r blaid, ond un sydd yn gwbl ymrwymiedig i werthoedd ac uchelgais Plaid Cymru.”