Emily Phillips
Merch o Gaerdydd, a gafodd ei geni â thwll yn ei chalon, ydi pencampwraig dringo dan-do gwledydd Prydain.

Mae Emily Philips yn 10 mlwydd oed, ac newydd ddod i’r brig ym Mhencampwriaeth Ddringo Prydain yng Nghaeredin.

Fe gafodd y gorau ar 32 o ddringwyr eraill.

Er iddi gael ei geni â thwll yn ei chalon, mae hi’n dringo ers ei bod yn 5 mlwydd oed.