Mae tîm y Llewod wedi trechu Awstralia 23-21 yng ngêm brawf gynta’r daith yn Brisbane heddiw.

Roedd hi’n gêm gyffrous, agos, a dau chwaraewr o Gymru’n serennu ac yn sgorio cais yr un – George North ac Alex Cuthbert.

Er i Awstralia gael dechrau da, y cicio wnaeth eu gadael i lawr. Wedi i George North sgorio cais unigol arbennig yn yr hanner cynta’, roedd Awstralia ar ei hôl hi wedi hynny.

Ond roedd cicio O’Connor yn methu’r pyst, ac er bod taclo Awstrlia’n bwerus, fe ddaeth sgarmes y Llewod â llwyddiant iddyn nhw. Fe gafodd Corbisiero hanner cynta’ da.

Y sgôr ar yr hanner oedd 13-12 i’r Llewod.

Yr ail hanner

Fe sgoriodd Alex Cuthbert gais ar ddechrau’r ail hanner, ac fe ddaeth Halfpenny a’i gwneud hi’n 20-12.

Ond yna, gyda llai nag 20 munud i fynd, roedd y sgôr yn agos unwaith eto, 20-18. Fe ddaeth dwy gic gosb – un i’r Llewod ac un i Awstralia – a gwneud y sgôr yn 23-21.

Fe fethodd Beale ddwy gic dros Awstralia yn ystod y munudau ola’ – a dyna gollodd y gêm iddyn nhw.