Mae chwaraewr dan 21 Gwlad Belg, Michy Batshuayi ar frig rhestr y chwaraewyr mae’r Elyrch yn gobeithio’u harwyddo cyn tymor nesaf.

Eisoes daeth cadarnhad bod yr Elyrch yn gobeithio arwyddo’r ymosodwr rhyngwladol, Bafetimbi Gomis.

Bellach, mae Michy Batshuayi yn un arall o’u targedau, ond fe fydd rhaid iddyn nhw gynnig mwy na’r £2.5 miliwn maen nhw eisoes wedi’i gynnig i Standard Liege amdano fe.

Mae Dieumerci Mbokani o Anderlecht hefyd ar y rhestr, ond mae disgwyl iddo symud i Dynamo Kiev.

Ond mae chwaraewr rhyngwladol y Congo wedi dangos diddordeb mewn chwarae yn yr Uwch Gynghrair.

Fe allai’r Elyrch fynd ar ôl ymosodwr Wigan, Arouna Kone, ond mae’n bosib y bydd e’n mynnu gormod o gyflog.

Mae Jordi Amat ac Alejandro Pozuelo hefyd wedi dal sylw’r Elyrch.

Pwy sy’n haeddu gwisgo crys yr Elyrch y tymor nesaf, a phwy all eu harwain at ragor o lwyddiant?

Michy Batshuayi: Chwaraewr ifanc eithaf di-brofiad, ond mae e wedi cael ychydig o brofiad o chwarae ar y lefel uchaf yng Ngwlad Belg, trwy gynrychioli Standard Liege. Hyd yma, mae e wedi sgorio 18 gôl mewn 59 gêm.

Bafetimbi Gomis: Mae cael eich cymharu â Didier Drogba yn dipyn o gamp i chwaraewr ifanc, ond eisoes mae Gomis wedi creu tipyn o argraff ar y byd pêl-droed. Sgoriodd e ddwy gôl mewn 13 gêm yn ei dymor cyntaf i St-Etienne. Aeth ar fenthyg i Troyes y tymor wedyn a sgorio chwe gôl mewn 13 gêm. Sgoriodd e 10 gôl mewn 30 gêm yn 2006-07, ac 16 gôl mewn 34 gêm y tymor canlynol. Mae’n amlwg fod ganddo’r ddawn i sgorio, ac fe fydd dau ymosodwr sy’n gallu sgorio i’r Elyrch yn sicr yn codi eu gobeithion o orffen yn hanner uchaf yr Uwch Gynghrair unwaith eto a chael tymor llwyddiannus yn Ewrop.

Dieumerci Mbokani: Mae Mbokani wedi cynrychioli’r Congo ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae’n fwy adnabyddus fel ymosodwr i Anderlecht. Mae e hefyd wedi chwarae i Wolfsburg, Monaco, Standard Liege a TP Mazembe. Daeth ei gyfnod mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn pan symudodd i Standard Liege yn 2007 a sgorio 35 gôl mewn 81 gêm.

Arouna Kone: Mae’n wyneb cyfarwydd yn yr Uwch Gynghrair yn dilyn ei gyfnod gyda Wigan ond gyda’r clwb bellach allan o’r Uwch Gynghrair, fe fydd e’n awyddus i barhau ar y lefel uchaf. Sgoriodd e 11 gôl mewn 33 gêm y tymor diwethaf, ac fe ymddangosodd e yn nhîm buddugol Wigan yn rownd derfynol Cwpan yr FA yn Wembley. Mae e’n sicr yn ddyn y llwyfan mawr.

Jordi Amat: Mae unrhyw chwaraewr o Sbaen yn debygol o ychwanegu at ddull cyfandirol yr Elyrch o chwarae. Mae Amat ar fenthyg gyda Rayo Vallecano o Espanyol ar hyn o bryd, ac mae e’n amddiffynnwr canol. Fe fyddai’n ymuno â’i gyd-wladwyr Chico Flores ac Angel Rangel yn y llinell amddiffynnol, ac fe allai fod yn eilydd addas ar gyfer Ashley Williams pe bai hwnnw’n penderfynu derbyn un o nifer o gynigion i fynd i uchelfannau’r Uwch Gynghrair ac Ewrop.

Alejandro Pozuelo: Mae’r chwaraewr canol cae ymosodol ifanc o Real Betis yn gymharol ddi-brofiad, ond fe sgoriodd e 16 gôl mewn 42 gêm i’r tîm ‘B’ y tymor diwethaf. Ac os gallwch chi gredu Wikipedia, mae e eisoes yn chwarae i Abertawe. Tybed a oes cyhoeddiad ar y gorwel?