Bydd tîm rygbi Cymru dan 20 yn chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd am y tro cyntaf ddydd Sul – a’u gwrthwynebwyr fydd yr hen elyn, Lloegr.
Bydd hi’n ornest i’w chofio wedi i’r ddau dîm guro De Affrica a Seland Newydd yn y rowndiau cynderfynol. Ond Lloegr fydd y ffefrynnau gan mai nhw aeth a’r gêm ddiwethaf rhwng y ddau (15 – 28) ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Roedd Cymru yn siomedig iawn o’u perfformiad yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad, oherwydd tan hynny roedden nhw wedi chwarae yn dda,” meddai’r cyn-ganolwr Rhodri Gomer Davies.
“Roedd hi’n berfformiad gwael ar y diwrnod ac mae’r hyfforddwyr a’r chwaraewyr wedi cydnabod hynny.”
“Ond maen nhw wedi codi i lefel uwch ar gyfer y Bencampwriaeth hon, ac er y bydd e’n dalcen caled yn erbyn enillwyr y Chwe Gwlad, dwi’n credu y gallan nhw fod yn hyderus o’r ffordd maen nhw wedi chwarae’n ddiweddar,” ychwanegodd.
Chwarae’n dda
Mae Cymru wedi chwarae’n dda iawn yn bencampwriaeth hyd yma gyda thair buddugoliaeth yn erbyn Samoa (42-3), Yr Alban (26-21) a’r Ariannin (25-20) yn y rowndiau grŵp. Yna, cafwyd brwydr i’r pen yn y rownd gynderfynol i guro’r Springboks 17-18. Daeth y fuddugoliaeth o drwch blewyn ddwy funud cyn y chwiban ola’, gyda chais yr asgellwr Ashley Evans a throsiad gan Sam Davies.
“Roedd hi’n gêm ryfeddol, yn berfformiad anhygoel yn amddiffynnol a doedd dim amser o gwbl i Dde Affrica chwarae rygbi,” meddai Rhodri Gomer Davies.
“Roedd cyfuniad perfformiadau’r haneri Rhodri Williams a Sam Davies yn wych. Ond un wnaeth ddal fy llygad yn enwedig oedd Jordan Williams fel y chwaraewr mwyaf cyflawn rwy’ wedi ei weld ar y lefel yma ers tro.
“Y ffordd roedd e’n rhedeg ac yn curo dynion, roedd e’n debyg i Shane Williams yn ei anterth ac yn gwneud iddo edrych yn hawdd.
“Gyda bois Cymru yn gwneud yn dda yng ngharfan y Llewod, roedd gweld Cymru yn colli i Japan yn siomedig, ond dwi’n gobeithio nawr bydd teitl byd i’r tîm dan 20 yn goron ar y tymor,” ychwanega Rhodri.
Bydd y gêm i’w gweld yn fyw ar S4C brynhawn Sul, 23 Mehefin am 5.15 y prynhawn gyda’r gic gyntaf am 5.45.