Jonathan Davies
Fe fydd y blaen asgellwr Tom Croft o Loegr a chanolwr Cymru Jonathan Davies yn holliach ar gyfer y prawf cyntaf yfory.

Mi fethodd y ddau sesiwn ymarfer ola’r Llewod ddoe.

Yr oedd yna ychydig o chwydd yn un o fysedd troed Croft ac yr oedd Davies yn gorffwys ar ôl dwy sesiwn galed o ymarfer.

Mae’r pymtheg fydd yn dechrau wedi ennill 770 o gapiau rhyngwladol, o gymharu â 519 sydd gan chwaraewyr Awstralia.  Mae’r hyfforddwr Andy Farrell yn dweud y bydd presenoldeb chwarawyr profiadol fel Paul O’Connell, Brian O’Driscoll, Adam Jones a Mike Phillips yn bwysig i’r Llewod.

‘‘Mae profiad mewn gemau mawr yn bwysig, ond rhaid cofio bod gan Awstralia rai chwaraewyr da iawn hefyd,” meddai Andy Farrell.

“Yr hyn a welwn mewn gemau pwysig fel hyn yw bod lefel y perfformiad yn codio tua 10-15%,’’ ychwanegodd.

‘‘Ar ôl y gwaith caled dros y chwe wythnos ddiwethaf yr ydym yn gwybod bod yr amser wedi dod i berfformio.  Medrwch ddweud ei bod yn wythnos y prawf ac mae yna frwdfrydedd mawr o gwmpas y lle.  Mae’r teimlad ar ac oddi ar y cae yn arbennig ac yr ydym wedi cael wythnos dda iawn.”