Fe fydd India yn herio Lloegr yn rownd derfynol Tlws Pencampwyr ICC, ar ôl iddyn nhw guro Sri Lanca yng Nghaerdydd ddoe.

Galwodd India’n gywir a gofyn i Sri Lanca fatio ar lain oedd yn addas ar gyfer y bowlwyr cyflym.

Llwyddodd Ishant Sharma (3-33) a Bhuvaneshwar Kumar (1-18) i’w cyfyngu i 181-3 oddi ar 50 o belawdau.

Doedd cyfraniadau sylweddol gan y capten Angelo Mathews a Mahela Jayawardene ddim yn ddigon i Sri Lanca gyrraedd 200.

Cyrhaeddodd India y nod gyda 15 pelawd yn weddill, yn dilyn cyfraniadau o 68 gan yr agorwr, Shikhar Dhawan, a 58 gan Virat Kohli.

Bydd India yn wynebu Lloegr yn Edgbaston ddydd Sul.

Dywedodd capten Sri Lanca, Angelo Mathews: “Dydy India ddim wedi colli mor belled ac maen nhw wedi bod yn chwarae criced da iawn.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod eu bod nhw’n bencampwyr y byd ar hyn o bryd ac mae’n anodd iawn mynd ben-ben â nhw.

“Maen nhw wedi bod yn dda iawn, felly pob lwc iddyn nhw.”

Er mwyn ennill ddydd Sul, fe fydd rhaid i India allu rheoli batwyr Lloegr fel Alastair Cook a Jonathan Trott.

Ychwanegodd Angelo Mathews nad oedden nhw’n bryderus am nifer o brotestiadau gwleidyddol ddigwyddodd yng Nghaerdydd yn ystod y gêm ddoe.

Daeth protestwyr i’r cae ddwy waith yn cario baneri coch ac yn protestio ar ran pobol Tamil yn erbyn ymdriniaeth llywodraeth Sri Lanca ohonyn nhw.

Dywedodd Mathews: “Do’n i ddim wir yn bryderus.

“Dydyn ni, fel cricedwyr, ddim yn bryderus am yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas ni.

“Roedd hi’n anffodus bod yna ymate heddiw ar ôl y gêm yn yr Oval, ond alla i ddim wir gwneud sylw.”

Mae yna le i gredu bod y protestwyr yn ymateb hefyd i ymosodiad ar bobol Tamil yn Surrey yr wythnos diwethaf.