Warburton yn gapten ddydd Sadwrn
Mae capten y Llewod, Sam Warburton yn barod i wireddu breuddwyd fory wrth iddo arwain y tîm yn y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia yn Brisbane.
Ond mae e wedi cyfaddef nad yw e’n gwybod eto beth fydd ei eiriau o ysbrydoliaeth i’w dîm cyn iddyn nhw gamu i’r cae.
Dydy’r Llewod ddim wedi ennill cyfres ers iddyn nhw guro De Affrica yn 1997, ond mae Warburton yn barod am yr her.
Dywedodd wrth bapur newydd The Times: “Rwy wedi bod yn meddwl am fory er pan o’n i’n 14 oed.
“Hon fydd moment fwyaf fy ngyrfa, heb amheuaeth.
“Ro’n i’n meddwl bod arwain Cymru allan yn erbyn Ffrain yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd ac yna yng ngêm y Gamp Lawn yn 2012 yn arbennig, ond fe fydd hon yn well na phob un ohonyn nhw.
“Bydd pobol fwy na thebyg yn meddwl beth fydd fy neges yn ystod y munudau olaf yn yr ystafell newid yma nos fory.
“Fy ateb onest yw nad ydw i’n gwybod.
“Bydda i’n aros am y foment ac yn mesur beth sydd angen cael ei ddweud.”
Fe fydd crys enwog y Llewod yn cael ei gyflwyno i’r chwaraewyr ychydig cyn dechrau’r gêm.